Gwaith cerddorfaol arloesol a phrofiad Rhith Realiti trochiol sy’n eich cludo i goedwigoedd hynafol Dinefwr, gan asio cerddoriaeth, natur a thechnoleg i ysbrydoli gobaith.
Trosolwg
Mae Bywyd yn y Coed yn daith drochiol o 8 munud trwy ganopi’r derw ym Mharc Dinefwr, lle mae cerddoriaeth a chanu adar yn plethu. Gyda sgôr wedi’i pherfformio gan Gerddorfa WNO a sain wedi’i recordio’n gyfan gwbl ar y safle, mae’r profiad yn amgylchynu’r gwyliwr â sain a delwedd. Mae’r portread byw hwn yn destun gwydnwch a harddwch natur yng ngwyneb pryder hinsawdd.
Perfformiadau
Lawnsiad Meddal
Dydd Gwener, 8 Awst 2025.
Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam.
Y Gofod Hyblyg. 11yb-1yp & 2yp-4yp.
Lawnsiad Swyddogol
Dydd Sadwrn, 9 Awst 2025.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam.
Lloeren, Pentref Gwyddoniaeth.
11.30yb – 12.30 & 2.30yp – 3.30
Ymweliad Cartref Gofal
Dydd Sul, 10 Awst 2025.
Bryn Seiont Newydd, Caernarfon.
Rhan o Sefydliad Gofal Parc Pendine.
Gwybodaeth
Fformat
Profiad Rhith Realiti trochiol o 8 munud gyda fideo 360° a sain ofodol.
Prif Greadigwyr
Owain Llwyd, Jacinth Latta,
Axel Drioli, Domonic White.
Wedi’i greu fel ffordd o ailgysylltu pobl â natur, mae Bywyd yn y Coed yn waith cerddorfaol arloesol ac yn brofiad Rhith Realiti trochiol, dan gyfarwyddyd Jacinth Latta. Wedi’i gyfansoddi gan Owain Llwyd a’i berfformio gan Gerddorfa WNO, mae’r prosiect yn trawsnewid recordiadau ar leoliad gan Axel Drioli o Warchodfa Natur Genedlaethol Dinefwr yn gerddoriaeth. Mae dadansoddiadau sain o fywyd gwyllt brodorol yn cael eu plethu i mewn i’r sgôr, gan ganiatáu i ganu adar asio gyda gwead cerddorfaol, tra bod siâp y tir ei hun yn ffurfio DNA harmonig y gwaith. Mae’n dyst i gerddoriaeth fyw a thirwedd Cymru, gyda delweddau syfrdanol wedi’u dal mewn VR gan Domonic White.
"Mae hyd yn oed y tir ei hun yn canu: mae siapiau coed derw hynafol a muriau’r castell yn ffurfio DNA harmonig a melodig y gwaith."
Owain Llwyd allan o nodyn rhaglen Bywyd yn y Coed
Un dderwen. Mil o fywydau.
Yn y ffilm fer VR hon, rydym yn dyst i ddrama dawel bywyd coeden hynafol o ganopi ffyniannus i bydredd ffrwythlon. Trwy newidiadau tymhorol a gweadau sonig, mae'r goeden yn dod yn symbol o wydnwch. Nid yw ei chwymp yn ddiwedd, ond yn ddechrau i bren marw sy'n darparu maetholion hanfodol ar gyfer chwilod, ffyngau a thwf egin newydd. Mae'r hyn sy'n ymddangos fel colled yn dod yn adnewyddiad.
Dyma stori cylchred bywyd, sut mae natur yn trawsnewid yr hyn sydd wedi syrthio’n sylfeini i genedlaethau’r dyfodol.
This website uses cookies that help the website to function and also to track how you interact with the website / Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis sy'n helpu'r wefan i weithredu a hefyd i olrhain sut rydych chi'n rhyngweithio gyda'r gwefan.